| ||||||||||||
|
Woodcraft Folk News>
Around the UK>
Read Article
Prosiect Libya / Project LibyaPublished on Friday February 25 2005** Welsh first, scroll down for English** Mae Gwerin, ar hyn o bryd, yn cymryd rhan yn y gwaith o gychwyn prosiect cyfnewid arloesol i ieuenctid rhwng Libya a Chymru. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Fforwm Ieuenctid Cymru ar Ddatblygu Cynaliadwy ac rydym yn derbyn cefnogaeth gan y Cyngor Prydeinig. Bydd grwpiau o 15 person ifanc rhwng 16-22 oed o Libya a Chymru yn cymryd rhan yn y prosiect. Bydd ein grŵp ni yn ymweld â Libya yn ystod y Pasg eleni, gan dreulio pythefnos yn y wlad honno. Daw’r grŵp o Libya i Gymru ym mis Gorffennaf. Yn ystod y daith gyfnewid, bydd ieuenctid Libya ac ieuenctid Cymru yn cydweithio ar y dasg o baratoi deunydd ar gyfer gwefan newydd sy’n canolbwyntio ar ieuenctid. Bydd y wefan yn rhoi sylw i faterion amgylcheddol, diwylliannol a chymdeithasol yn Libya ac yng Nghymru, a’i nod fydd addysgu pobl ifanc ar draws y byd. Hyd yn ddiweddar nid oedd unrhyw berthynas swyddogol yn bod rhwng Libya a’r DU. Y prosiect hwn fydd y daith gyfnewid gyntaf i ieuenctid rhwng Libya a’r DU, felly mae hwn yn gyfle arbennig o gyffrous. Y gobaith yw y bydd yn creu cysylltiadau cadarnach rhwng y ddwy wlad. Libya ProjectGwerin is currently involved in setting up a ground breaking youth exchange between Libya and Wales. We are working in partnership with the Welsh Youth Forum on Sustainable Development, and are being supported by the British Council.Groups of 15 young people aged 16-22 from Libya and Wales will take part in the project. Our group will visit Libya this Easter, and spend two weeks in the country. The Libyan group will come to Wales in July. During the exchange the Libyan and Welsh young people will work together to produce material for a new youth focussed website. The website will look at environmental, cultural and social issues in Libya and Wales, and will aim to educate young people across the world. Up until recently there were no official relations between Libya and the UK. This project will be the first youth exchange between Libya and the UK, so is a really exciting opportunity. It will hopefully create stronger links between our two countries. | ||||||||||||
| You are not logged in. Login ©2008 The Woodcraft Folk. Registered charity 1073665 | ||||||||||||