About Us Educational Resources Our Groups & Centres Links, Contacts & Shop Projects & Major Events Members Information
Woodcraft Folk News> Around the UK> Read Article

Newyddion O Benarth / Penarth News

Published on Saturday January 01 2005

** Welsh first, please scroll down for English **

Ym mis Gorffennaf, buom ni yng Ngrŵp Penarth yn dathlu ein blwyddyn lawn gyntaf o gynnal Grŵp Arloeswyr ac Elffiniaid ac mae nifer y plant sy’n mynychu wedi cynyddu i dros 30. 

Fel criw newydd, rydym wedi ceisio dysgu o lwyddiannau (a rhwystredigaethau) grwpiau eraill, yn enwedig ar fater recriwtio a chadw arweinwyr a gwirfoddolwyr mewn oed.  Rydym yn annog pob rhiant i ddod i un sesiwn wythnosol bob tymor i roi help llaw, yn y gobaith y bydd rhai yn teimlo fel cyfranogi ymhellach a derbyn hyfforddiant fel arweinydd, neu gyfrannu unrhyw sgiliau arbennig all fod ganddyn nhw, mewn ffyrdd eraill.
Rydym hefyd yn ymwybodol na ddylem ni geisio ymestyn yn ormodol yn y dyddiau cynnar hyn (er enghraifft, bu’r ymateb i’r posibilrwydd o ddechrau grŵp arall ar wahân ar gyfer Sglodion y Coed (Woodchips) yn gadarn iawn, ond gan nad oedd gennym oedolion ychwanegol oedd yn barod i ymrwymo i’r gwaith, penderfynasom na fyddai’n ymarferol bosibl i ni wneud hyn yn ddidrafferth).  Rydym hefyd wedi dod i weld na fydd gennym grŵp Anturwyr hyd nes y bydd ein Arloeswyr yn hŷn, gan ei bod bron yn amhosibl recriwtio ymhlith y grŵp oedran hwn.

Mae Penarth yn gymuned ddinesig ar gyrion Caerdydd.  Mae ethos Gwerin y Coed, a’r ffocws rydym ni’n ei roi ar addysg a gweithgareddau amgylcheddol yn arbennig o ddeniadol i nifer o deuluoedd.  Bu ein gwersyll cyntaf, 4 diwrnod o hyd, yng Nghoed y Deon yn gynnar yn yr haf, yn brofiad addysgol gwerthfawr i’r arweinyddion.  Fel rhan o’n gwaith paratoi ar gyfer y gwersyll, ac yn sail i’r nawdd a dderbyniwyd gennym oddi wrth Enfys, aethom ati i godi tŷ bach compostio parhaus, effaith-isel ar y safle – i’w ddefnyddio gan y gwersyllwyr a’r cerddwyr sy’n defnyddio’r safle.

Fel y gŵyr nifer o grwpiau sefydledig, mae’r gwaith yn drwm ond yn werthfawr iawn.  Rydym wedi sylwi fod nifer o’r plant wedi tyfu’n fwy hyderus ac annibynnol, ac mae ymddygiad aflonyddgar wedi lleihau’n sylweddol. Ein gobaith yw y byddwn o gwmpas am lawer flwyddyn. 
Janice Gillian, grŵp Penarth.

News from Penarth

In July, the Penarth Group celebrated our first full year of operating a Pioneer and Elfin Group, and have grown to over 30 children attending.

As a new group, we have tried to learn from the successes (and frustrations) of other groups, especially around recruiting and keeping adult leaders and volunteers. We encourage all parents to come along to one weekly session per term to help out, with the hope that some will want to get more involved and train as an adult leader, or contribute any special skills they may have in other ways.

We are also aware that we shouldn't try to spread ourselves too thin in these early days (for example, there was a lot of interest in starting a separate Woodchips group, but without the extra adults willing to commit, we decided we could not do it properly). We have also come to realise that we won't have a Venturer Group until our Pioneers get older, as it has proven near impossible to recruit at this age group.

Penarth is an urban community near Cardiff. The ethos of the Woodcraft Folk, and our focus on environmental education and activities is especially attractive to many families. Our first four-day camp in the Forest of Dean in early summer was a valuable learning experience for the leaders. As part of the preparation for the camp, and the basis of our funding from Enfys, we built a permanent low-impact composting toilet on the site - to be used by campers and walkers who use the site.

As many established groups already know, it is a lot of work but very worthwhile. We have noticed that many of the children have become more confident and independent, and disruptive behaviour is much less common. We hope to be around for many years to come.

Janice Gillian, Penarth group

You are not logged in. Login ©2008 The Woodcraft Folk. Registered charity 1073665