| ||||||||||||
|
Woodcraft Folk News>
Around the UK>
Read Article
Gwersyll Haf 2004/ Wales Summer Camp 2004Published on Tuesday August 31 2004**Welsh first, please scroll down for English** Cynhaliwyd gwersyll haf Gwerin y Coed y llynedd, yn ystod mis Gorffennaf, yn Llandudoch, ger Aberteifi. Daeth dros 100 o bobl o bob rhan o Gymru yno, a rhai o fannau ychydig pellach na hynny hyd yn oed! Ymhlith uchafbwyntiau’r gwersyll cafwyd Noson Lawen a Ffair Bys, lle roedd pobl yn codi stondinau neu’n gwerthu nwyddau yn gyfnewid am bys. Roedd adrodd straeon, chwaraeon dŵr, chwarae ar y traeth, gwaith coed, canŵio, gwneud canhwyllau, gweithdai cerdd a sesiynau stori ymhlith y gweithgareddau eraill a gynhaliwyd. Buom yn defnyddio ein pabell fawr Gymreig – cawsom gryn dipyn o hwyl yn ei chodi am y tro cyntaf! Darparwyd yr holl drydan gennym ar gyfer y gwersyll a hynny o ffynonellau cynaladwy, ac fe lwyddwyd hyd yn oed i ddangos ffilmiau yn y babell fawr ac i wefru ffonau symudol! Bu’r gwersyll yn llwyddiant rhyfeddol, ac roedd yn deyrnged i holl waith galed y trefnyddion. Mae cynlluniau ar y gweill ar gyfer rhyw fath o wersyll i Gymru eleni, ond mae angen i ni eich cael CHI i gymryd rhan yn y gwaith o’i drefnu! Cysylltwch â Swyddfa Gwerin y Coed ar 0845 458 9560 os oes gyda chi ddiddordeb mewn cynorthwyo, a hynny mewn unrhyw ffordd. Wales Summer Camp 2004Last year’s Gwerin Y Coed summer camp was held near St. Dogmaels in Cardigan last July. There were over 100 people from all over Wales there, and some from a little further! Highlights of the camp included the “Noson Llawen” and the Pea-fair, where people make stalls or sell things in return for peas. Other activities included storytelling, water-sports, playing at the beach, woodworking, canoeing, candle-making, music workshops and storytelling.We used our new Welsh marquee for the first - much fun was had putting it up for the first time! We supplied all the electricity for the camp from renewable sources, and even managed to show films in the marquee and charge mobile phones! All in all the camp was an amazing success, and was a tribute to the hard work put in by the organisers. Plans are developing for some sort of Welsh camp this year, but we need YOU to get involved in organising it! Contact Gwerin y Coed Office on 0845 4589560 if you are interested in helping in any way. | ||||||||||||
| You are not logged in. Login ©2008 The Woodcraft Folk. Registered charity 1073665 | ||||||||||||